Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 10:12-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.

13. Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr a wna ynghyd â'r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.

14. Oherwydd paham, fy anwylyd, ffowch oddi wrth eilun‐addoliaeth.

15. Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd.

16. Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw?

17. Oblegid nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o'r un bara.

18. Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid yw'r rhai sydd yn bwyta'r ebyrth, yn gyfranogion o'r allor?

19. Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bod yr eilun yn ddim, neu'r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim?

20. Ond y pethau y mae'r Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â'r cythreuliaid.

21. Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid.

22. Ai gyrru'r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? a ydym ni yn gryfach nag ef?

23. Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.

24. Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un yr eiddo arall.

25. Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod:

26. Canys eiddo'r Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder.

27. Os bydd i neb o'r rhai di‐gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod.

28. Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, er mwyn hwnnw yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo'r Arglwydd y ddaear, a'i chyflawnder.

29. Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 10