1. Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau oll dan y cwmwl, a'u myned oll trwy y môr;
2. A'u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr;
3. A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd ysbrydol;
4. Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod ysbrydol: canys hwy a yfasant o'r Graig ysbrydol a oedd yn canlyn: a'r Graig oedd Crist.
5. Eithr ni bu Dduw fodlon i'r rhan fwyaf ohonynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffeithwch.
6. A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag y chwenychasant hwy.
7. Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae.
8. Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain.