Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 1:20-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Pa le y mae'r doeth? pa le mae'r ysgrifennydd? pa le y mae ymholydd y byd hwn? oni wnaeth Duw ddoethineb y byd hwn yn ynfydrwydd?

21. Canys oherwydd yn noethineb Duw, nad adnabu'r byd trwy ddoethineb mo Dduw, fe welodd Duw yn dda trwy ffolineb pregethu gadw y rhai sydd yn credu.

22. Oblegid y mae'r Iddewon yn gofyn arwydd, a'r Groegwyr yn ceisio doethineb:

23. Eithr nyni ydym yn pregethu Crist wedi ei groeshoelio, i'r Iddewon yn dramgwydd, ac i'r Groegwyr yn ffolineb;

24. Ond iddynt hwy y rhai a alwyd, Iddewon a Groegwyr, yn Grist gallu Duw, a doethineb Duw.

25. Canys y mae ffolineb Duw yn ddoethach na dynion; a gwendid Duw yn gryfach na dynion.

26. Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, frodyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y cnawd, nad llawer o rai galluog, nad llawer o rai boneddigion, a alwyd:

27. Eithr Duw a etholodd ffôl bethau'r byd, fel y gwaradwyddai'r doethion; a gwan bethau'r byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai'r pethau cedyrn;

28. A phethau distadl y byd, a phethau dirmygus, a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y diddymai'r pethau sydd:

29. Fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef.

30. Eithr yr ydych chwi ohono ef yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaethpwyd i ni gan Dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn brynedigaeth:

31. Fel megis ag y mae yn ysgrifenedig, Yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 1