12. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, bod pob un ohonoch yn dywedyd, Yr ydwyf fi yn eiddo Paul; minnau yn eiddo Apolos; minnau yn eiddo Ceffas; minnau yn eiddo Crist.
13. A rannwyd Crist? ai Paul a groeshoeliwyd drosoch? neu ai yn enw Paul y'ch bedyddiwyd chwi?
14. Yr ydwyf yn diolch i Dduw, na fedyddiais i neb ohonoch, ond Crispus a Gaius;
15. Fel na ddywedo neb fedyddio ohonof fi yn fy enw fy hun.
16. Mi a fedyddiais hefyd dylwyth Steffanas: heblaw hynny nis gwn a fedyddiais i neb arall.
17. Canys nid anfonodd Crist fi i fedyddio, ond i efengylu; nid mewn doethineb ymadrodd, fel na wnelid croes Crist yn ofer.
18. Canys yr ymadrodd am y groes, i'r rhai colledig, ynfydrwydd yw; eithr i ni'r rhai cadwedig, nerth Duw ydyw.
19. Canys ysgrifenedig yw, Mi a ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf.