1. Paul, wedi ei alw i fod yn apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes,
2. At eglwys Dduw yr hon sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, a alwyd yn saint, gyda phawb ag sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, ym mhob man, o'r eiddynt hwy a ninnau:
3. Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
4. Yr ydwyf yn diolch i'm Duw bob amser drosoch chwi, am y gras Duw a rodded i chwi yng Nghrist Iesu;
5. Am eich bod ym mhob peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pob ymadrodd, a phob gwybodaeth;
6. Megis y cadarnhawyd tystiolaeth Crist ynoch:
7. Fel nad ydych yn ôl mewn un dawn, yn disgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist:
8. Yr hwn hefyd a'ch cadarnha chwi hyd y diwedd, yn ddiargyhoedd, yn nydd ein Harglwydd Iesu Grist.
9. Ffyddlon yw Duw, trwy yr hwn y'ch galwyd i gymdeithas ei Fab ef Iesu Grist ein Harglwydd ni.
10. Ac yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, trwy enw ein Harglwydd Iesu Grist, ddywedyd o bawb ohonoch chwi yr un peth, ac na byddo ymbleidio yn eich plith; eithr bod ohonoch wedi eich cyfan gysylltu yn yr un meddwl, ac yn yr un farn.
11. Canys fe ddangoswyd i mi amdanoch chwi, fy mrodyr, gan y rhai sydd o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith chwi.