Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 98:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a'i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth.

2. Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd.

3. Cofiodd ei drugaredd a'i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni.

4. Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.

5. Cenwch i'r Arglwydd gyda'r delyn; gyda'r delyn, a llef salm.

6. Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin.

7. Rhued y môr a'i gyflawnder; y byd a'r rhai a drigant o'i fewn.

8. Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd

9. O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a'r bobloedd ag uniondeb.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 98