6. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr.
7. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,
8. Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
9. Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.
10. Deugain mlynedd yr ymrysonais â'r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd:
11. Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i'm gorffwysfa.