3. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.
5. Y môr sydd eiddo, ac efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sychdir.
6. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr.
7. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,
8. Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:
9. Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd.