Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 95:2-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau.

3. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

4. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo.

5. Y môr sydd eiddo, ac efe a'i gwnaeth: a'i ddwylo a luniasant y sychdir.

6. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr.

7. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd,

8. Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch:

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 95