Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 94:18-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a'm cynhaliodd.

19. Yn amlder fy meddyliau o'm mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.

20. A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?

21. Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22. Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a'm Duw yw craig fy nodded.

23. Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'u tyr hwynt ymaith.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 94