16. Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?
17. Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.
18. Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a'm cynhaliodd.
19. Yn amlder fy meddyliau o'm mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
20. A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
21. Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.
22. Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a'm Duw yw craig fy nodded.
23. Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a'u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a'u tyr hwynt ymaith.