Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 94:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria.

2. Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i'r beilchion.

3. Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?

4. Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?

5. Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a'th etifeddiaeth a gystuddiant.

6. Y weddw a'r dieithr a laddant, a'r amddifad a ddieneidiant.

7. Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn.

8. Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?

9. Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?

10. Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?

11. Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.

12. Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith:

13. I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i'r annuwiol.

14. Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.

15. Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a'r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 94