1. Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu, efe a wisgodd ardderchowgrwydd; gwisgodd yr Arglwydd nerth, ac ymwregysodd: y byd hefyd a sicrhawyd, fel na syflo.
2. Darparwyd dy orseddfainc erioed: ti wyt er tragwyddoldeb.
3. Y llifeiriaint, O Arglwydd, a ddyrchafasant, y llifeiriaint a ddyrchafasant eu twrf; y llifeiriaint a ddyrchafasant eu tonnau.
4. Yr Arglwydd yn yr uchelder sydd gadarnach na thwrf dyfroedd lawer, na chedyrn donnau y môr.