4. Cyfrifwyd fi gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth.
5. Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.
6. Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.
7. Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â'th holl donnau y'm cystuddiaist. Sela.
8. Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd‐dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan.
9. Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat Arglwydd, beunydd; estynnais fy nwylo atat.
10. Ai i'r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a'th foliannu di? Sela.