10. Ai i'r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a'th foliannu di? Sela.
11. A draethir dy drugaredd mewn bedd? a'th wirionedd yn nistryw?
12. A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a'th gyfiawnder yn nhir angof?
13. Ond myfi a lefais arnat, Arglwydd; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.
14. Paham, Arglwydd, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?
15. Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o'm hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.
16. Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a'm torrodd ymaith.
17. Fel dwfr y'm cylchynasant beunydd, ac y'm cydamgylchasant.
18. Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a'm cydnabod i dywyllwch.