1. O Arglwydd Dduw fy iachawdwriaeth, gwaeddais o'th flaen ddydd a nos.
2. Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain.
3. Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a'm heinioes a nesâ i'r beddrod.
4. Cyfrifwyd fi gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth.
5. Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.
6. Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.