Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 87:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ei sail sydd ar y mynyddoedd sanctaidd.

2. Yr Arglwydd a gâr byrth Seion yn fwy na holl breswylfeydd Jacob.

3. Gogoneddus bethau a ddywedir amdanat ti, O ddinas Duw. Sela.

4. Cofiaf Rahab a Babilon wrth fy nghydnabod: wele Philistia, a Thyrus, ynghyd ag Ethiopia. Yno y ganwyd hwn.

5. Ac am Seion y dywedir, Y gŵr a'r gŵr a anwyd ynddi: a'r Goruchaf ei hun a'i sicrha hi.

6. Yr Arglwydd a gyfrif pan ysgrifenno y bobl, eni hwn yno. Sela.

7. Y cantorion a'r cerddorion a fyddant yno: fy holl ffynhonnau sydd ynot ti.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 87