8. O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela.
9. O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog.
10. Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhÅ· fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb.
11. Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.
12. O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.