Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 84:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mor hawddgar yw dy bebyll di, O Arglwydd y lluoedd!

2. Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd: fy nghalon a'm cnawd a waeddant am y Duw byw.

3. Aderyn y to hefyd a gafodd dŷ, a'r wennol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion; sef dy allorau di, O Arglwydd y lluoedd, fy Mrenin, a'm Duw.

4. Gwyn fyd preswylwyr dy dŷ: yn wastad y'th foliannant. Sela.

5. Gwyn ei fyd y dyn y mae ei gadernid ynot; a'th ffyrdd yn eu calon:

6. Y rhai yn myned trwy ddyffryn Bacha a'i gwnânt yn ffynnon: a'r glaw a leinw y llynnau.

7. Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un gerbron Duw yn Seion.

8. O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela.

9. O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog.

10. Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb.

11. Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith.

12. O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 84