8. Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.
9. Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:
10. Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i'r ddaear.
11. Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a'u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:
12. Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i'w meddiannu.
13. Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
14. Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;
15. Felly erlid di hwynt â'th dymestl, a dychryna hwynt â'th gorwynt.
16. Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd.
17. Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt:
18. Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.