4. Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach.
5. Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i'th erbyn;
6. Pebyll Edom, a'r Ismaeliaid; y Moabiaid, a'r Hagariaid;
7. Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus.
8. Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela.
9. Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison:
10. Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i'r ddaear.
11. Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a'u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna:
12. Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i'w meddiannu.
13. Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt.
14. Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd;