8. Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf;
9. Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.
10. Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a'i llanwaf.
11. Ond ni wrandawai fy mhobl ar fy llef; ac Israel ni'm mynnai.
12. Yna y gollyngais hwynt yng nghyndynrwydd eu calon: aethant wrth eu cyngor eu hunain.
13. O na wrandawsai fy mhobl arnaf; na rodiasai Israel yn fy ffyrdd!
14. Buan y gostyngaswn eu gelynion, ac y troeswn fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.
15. Caseion yr Arglwydd a gymerasent arnynt ymostwng iddo ef: a'u hamser hwythau fuasai yn dragywydd.