Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 81:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid: cenwch yn llawen i Dduw Jacob.

2. Cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a'r nabl.

3. Utgenwch utgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchel ŵyl.

4. Canys deddf yw hyn i Israel, a defod i Dduw Jacob.

5. Efe a'i gosododd yn dystiolaeth yn Joseff, pan aeth efe allan trwy dir yr Aifft: lle y clywais iaith ni ddeallwn.

6. Tynnais ei ysgwydd oddi wrth y baich: ei ddwylo a ymadawsant â'r crochanau.

7. Mewn cyfyngder y gelwaist, ac mi a'th waredais: gwrandewais di yn nirgelwch y daran: profais di wrth ddyfroedd Meriba. Sela.

8. Clyw, fy mhobl, a mi a dystiolaethaf i ti: Israel, os gwrandewi arnaf;

9. Na fydded ynot dduw arall; ac nac ymgryma i dduw dieithr.

10. Myfi yr Arglwydd dy Dduw yw yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft: lleda dy safn, a mi a'i llanwaf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 81