1. Gwrando, O Fugail Israel, yr hwn wyt yn arwain Joseff fel praidd; ymddisgleiria, yr hwn wyt yn eistedd rhwng y ceriwbiaid.
2. Cyfod dy nerth o flaen Effraim a Benjamin a Manasse, a thyred yn iachawdwriaeth i ni.
3. Dychwel ni, O Dduw, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
4. O Arglwydd Dduw y lluoedd, pa hyd y sorri wrth weddi dy bobl?
5. Porthaist hwynt â bara dagrau; a diodaist hwynt â dagrau wrth fesur mawr.
6. Gosodaist ni yn gynnen i'n cymdogion; a'n gelynion a'n gwatwarant yn eu mysg eu hun.
7. O Dduw y lluoedd, dychwel ni, a llewyrcha dy wyneb; a ni a achubir.
8. Mudaist winwydden o'r Aifft: bwriaist y cenhedloedd allan, a phlennaist hi.