3. Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist;
4. Pa beth yw dyn, i ti i'w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef?
5. Canys gwnaethost ef ychydig is na'r angylion, ac a'i coronaist â gogoniant ac â harddwch.
6. Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef:
7. Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;
8. Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.
9. Arglwydd ein Ior, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!