12. Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.
13. Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â'n Duw ni?
14. Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.
15. Gwaredaist â'th fraich dy bobl, meibion Jacob a Joseff. Sela.
16. Y dyfroedd a'th welsant, O Dduw, y dyfroedd a'th welsant: hwy a ofnasant; y dyfnderau hefyd a gynhyrfwyd.
17. Y cymylau a dywalltasant ddwfr: yr wybrennau a roddasant dwrf: dy saethau hefyd a gerddasant.
18. Twrf dy daran a glywyd o amgylch: mellt a oleuasant y byd; cyffrôdd a chrynodd y ddaear.
19. Dy ffordd sydd yn y môr, a'th lwybrau yn y dyfroedd mawrion; ac nid adwaenir dy ôl.
20. Tywysaist dy bobl fel defaid, trwy law Moses ac Aaron.