Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 77:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'm llef y gwaeddais ar Dduw, â'm llef ar Dduw; ac efe a'm gwrandawodd.

2. Yn nydd fy nhrallod y ceisiais yr Arglwydd: fy archoll a redodd liw nos, ac ni pheidiodd: fy enaid a wrthododd ei ddiddanu.

3. Cofiais Dduw, ac a'm cythryblwyd: cwynais, a therfysgwyd fy ysbryd. Sela.

4. Deliaist fy llygaid yn neffro: synnodd arnaf, fel na allaf lefaru.

5. Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd.

6. Cofio yr ydwyf fy nghân y nos: yr ydwyf yn ymddiddan â'm calon; fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal.

7. Ai yn dragywydd y bwrw yr Arglwydd heibio? ac oni bydd efe bodlon mwy?

8. A ddarfu ei drugaredd ef dros byth? a balla ei addewid ef yn oes oesoedd?

9. A anghofiodd Duw drugarhau? a gaeodd efe ei drugareddau mewn soriant? Sela.

10. A dywedais, Dyma fy ngwendid: eto cofiaf flynyddoedd deheulaw y Goruchaf.

11. Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd; ie, cofiaf dy wyrthiau gynt.

12. Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd y chwedleuaf.

13. Dy ffordd, O Dduw, sydd yn y cysegr: pa dduw mor fawr â'n Duw ni?

14. Ti yw y Duw sydd yn gwneuthur rhyfeddodau: dangosaist dy nerth ymysg y bobloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 77