Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 70:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. O Dduw, prysura i'm gwaredu; brysia, Arglwydd, i'm cymorth.

2. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi.

3. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha.

4. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a'th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw.

5. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a'm gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 70