4. O thelais ddrwg i'r neb oedd heddychol â mi, (ie, mi a waredais yr hwn sydd elyn i mi heb achos;)
5. Erlidied y gelyn fy enaid, a goddiwedded: sathred hefyd fy mywyd i'r llawr, a gosoded fy ngogoniant yn y llwch. Sela.
6. Cyfod, Arglwydd, yn dy ddicllonedd, ymddyrcha, oherwydd llid fy ngelynion: deffro hefyd drosof i'r farn a orchmynnaist.
7. Felly cynulleidfa y bobloedd a'th amgylchynant: er eu mwyn dychwel dithau i'r uchelder.
8. Yr Arglwydd a farn y bobloedd: barn fi, O Arglwydd, yn ôl fy nghyfiawnder, ac yn ôl fy mherffeithrwydd sydd ynof.
9. Darfydded weithian anwiredd yr annuwiolion, eithr cyfarwydda di y cyfiawn: canys y Duw cyfiawn a chwilia y calonnau a'r arennau.
10. Fy amddiffyn sydd o Dduw, Iachawdwr y rhai uniawn o galon.
11. Duw sydd Farnydd cyfiawn, a Duw sydd ddicllon beunydd wrth yr annuwiol.
12. Oni ddychwel yr annuwiol, efe a hoga ei gleddyf: efe a anelodd ei fwa, ac a'i paratôdd.
13. Paratôdd hefyd iddo arfau angheuol: efe a drefnodd ei saethau yn erbyn yr erlidwyr.
14. Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd.
15. Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.
16. Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a'i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.