14. Wele, efe a ymddŵg anwiredd, ac a feichiogodd ar gamwedd, ac a esgorodd ar gelwydd.
15. Torrodd bwll, cloddiodd ef, syrthiodd hefyd yn y clawdd a wnaeth.
16. Ei anwiredd a ymchwel ar ei ben ei hun, a'i draha a ddisgyn ar ei gopa ei hun.
17. Clodforaf yr Arglwydd yn ôl ei gyfiawnder, a chanmolaf enw yr Arglwydd goruchaf.