20. Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.
21. Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a'm diodasant yn fy syched â finegr.
22. Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a'u llwyddiant yn dramgwydd.
23. Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i'w llwynau grynu bob amser.
24. Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.
25. Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.
26. Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.
27. Dod ti anwiredd at eu hanwiredd hwynt; ac na ddelont i'th gyfiawnder di.
28. Dileer hwynt o lyfr y rhai byw; ac na ysgrifenner hwynt gyda'r rhai cyfiawn.
29. Minnau, truan a gofidus ydwyf: dy iachawdwriaeth di, O Dduw, a'm dyrchafo.
30. Moliannaf enw Duw ar gân, a mawrygaf ef mewn mawl.
31. A hyn fydd well gan yr Arglwydd nag ych neu fustach corniog, carnol.
32. Y trueiniaid a lawenychant pan welant hyn: eich calon chwithau, y rhai a geisiwch Dduw, a fydd byw.
33. Canys gwrendy yr Arglwydd ar dlodion, ac ni ddiystyra efe ei garcharorion.
34. Nefoedd a daear, y môr a'r hyn oll a ymlusgo ynddo, molant ef.
35. Canys Duw a achub Seion, ac a adeilada ddinasoedd Jwda; fel y trigont yno, ac y meddiannont hi.
36. A hiliogaeth ei weision a'i meddiannant hi: a'r rhai a hoffant ei enw ef, a breswyliant ynddi.