12. Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i'r meddwon yr oeddwn yn wawd.
13. Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.
14. Gwared fi o'r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dyfroedd dyfnion.
15. Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.
16. Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.
17. Ac na chuddia dy wyneb oddi wrth dy was; canys y mae cyfyngder arnaf: brysia, gwrando fi.
18. Nesâ at fy enaid, a gwared ef: achub fi oherwydd fy ngelynion.
19. Ti a adwaenost fy ngwarthrudd, a'm cywilydd, a'm gwaradwydd: fy holl elynion ydynt ger dy fron di.
20. Gwarthrudd a dorrodd fy nghalon; yr ydwyf mewn gofid: a disgwyliais am rai i dosturio wrthyf, ac nid oedd neb; ac am gysurwyr, ac ni chefais neb.
21. Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a'm diodasant yn fy syched â finegr.
22. Bydded eu bwrdd yn fagl ger eu bron, a'u llwyddiant yn dramgwydd.
23. Tywyller eu llygaid, fel na welont; a gwna i'w llwynau grynu bob amser.
24. Tywallt dy ddig arnynt; a chyrhaedded llidiowgrwydd dy ddigofaint hwynt.
25. Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd; ac na fydded a drigo yn eu pebyll.
26. Canys erlidiasant yr hwn a drawsit ti; ac am ofid y rhai a archollaist ti, y chwedleuant.