1. Achub fi, O Dduw, canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid.
2. Soddais mewn tom dwfn, lle nid oes sefyllfa: deuthum i ddyfnder dyfroedd, a'r ffrwd a lifodd drosof.
3. Blinais yn llefain, sychodd fy ngheg: pallodd fy llygaid, tra yr ydwyf yn disgwyl wrth fy Nuw.
4. Amlach na gwallt fy mhen yw y rhai a'm casânt heb achos: cedyrn yw fy ngelynion diachos, y rhai a'm difethent: yna y telais yr hyn ni chymerais.
5. O Dduw, ti a adwaenost fy ynfydrwydd; ac nid yw fy nghamweddau guddiedig rhagot.
6. Na chywilyddier o'm plegid i y rhai a obeithiant ynot ti, Arglwydd Dduw y lluoedd: na waradwydder o'm plegid i y rhai a'th geisiant di, O Dduw Israel.
7. Canys er dy fwyn di y dygais warthrudd, ac y todd cywilydd fy wyneb.
8. Euthum yn ddieithr i'm brodyr, ac fel estron gan blant fy mam.
9. Canys sêl dy dŷ a'm hysodd; a gwaradwyddiad y rhai a'th waradwyddent di, a syrthiodd arnaf fi.
10. Pan wylais, gan gystuddio fy enaid ag ympryd, bu hynny yn waradwydd i mi.
11. Gwisgais hefyd sachliain; ac euthum yn ddihareb iddynt.
12. Yn fy erbyn y chwedleuai y rhai a eisteddent yn y porth; ac i'r meddwon yr oeddwn yn wawd.
13. Ond myfi, fy ngweddi sydd atat ti, O Arglwydd, mewn amser cymeradwy: O Dduw, yn lluosowgrwydd dy drugaredd gwrando fi, yng ngwirionedd dy iachawdwriaeth.
14. Gwared fi o'r dom, ac na soddwyf: gwareder fi oddi wrth fy nghaseion, ac o'r dyfroedd dyfnion.
15. Na lifed y ffrwd ddwfr drosof, ac na lynced y dyfnder fi; na chaeed y pydew chwaith ei safn arnaf.
16. Clyw fi, Arglwydd; canys da yw dy drugaredd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau edrych arnaf.