Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 68:9-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Dihidlaist law graslon, O Dduw, ar dy etifeddiaeth: ti a'i gwrteithiaist wedi ei blino.

10. Dy gynulleidfa di sydd yn trigo ynddi: yn dy ddaioni, O Dduw, yr wyt yn darparu i'r tlawd.

11. Yr Arglwydd a roddes y gair; mawr oedd mintai y rhai a'i pregethent.

12. Brenhinoedd byddinog a ffoesant ar ffrwst: a'r hon a drigodd yn tŷ, a rannodd yr ysbail.

13. Er gorwedd ohonoch ymysg y crochanau, byddwch fel esgyll colomen wedi eu gwisgo ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn.

14. Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd ynddi, yr oedd hi yn wen fel eira yn Salmon.

15. Mynydd Duw sydd fel mynydd Basan; yn fynydd cribog fel mynydd Basan.

16. Paham y llemwch, chwi fynyddoedd cribog? dyma y mynydd a chwenychodd Duw ei breswylio; ie, preswylia yr Arglwydd ynddo byth.

17. Cerbydau Duw ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cysegr.

18. Dyrchefaist i'r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i'r rhai cyndyn hefyd, fel y preswyliai yr Arglwydd Dduw yn eu plith.

19. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a'n llwytha beunydd â daioni; sef Duw ein hiachawdwriaeth. Sela.

20. Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth; ac i'r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.

21. Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 68