Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 68:20-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth; ac i'r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.

21. Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.

22. Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr;

23. Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.

24. Gwelsant dy fynediad, O Dduw; mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cysegr.

25. Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau.

26. Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.

27. Yno y mae Benjamin fychan â'u llywydd, tywysogion Jwda â'u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali.

28. Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.

29. Brenhinoedd a ddygant i ti anrheg er mwyn dy deml yn Jerwsalem.

30. Cerydda dyrfa y gwaywffyn, cynulleidfa y gwrdd deirw, gyda lloi y bobl, fel y delont yn ostyngedig â darnau arian: gwasgar y bobl sydd dda ganddynt ryfel.

31. Pendefigion a ddeuant o'r Aifft; Ethiopia a estyn ei dwylo yn brysur at Dduw.

32. Teyrnasoedd y ddaear, cenwch i Dduw; canmolwch yr Arglwydd: Sela:

33. Yr hwn a ferchyg ar nef y nefoedd, y rhai oedd erioed: wele efe yn anfon ei lef, a honno yn llef nerthol.

34. Rhoddwch i Dduw gadernid: ei oruchelder sydd ar Israel, a'i nerth yn yr wybrennau.

35. Ofnadwy wyt, O Dduw, o'th gysegr: Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i'r bobl. Bendigedig fyddo Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 68