Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 68:16-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Paham y llemwch, chwi fynyddoedd cribog? dyma y mynydd a chwenychodd Duw ei breswylio; ie, preswylia yr Arglwydd ynddo byth.

17. Cerbydau Duw ydynt ugain mil, sef miloedd o angylion: yr Arglwydd sydd yn eu plith, megis yn Sinai yn y cysegr.

18. Dyrchefaist i'r uchelder, caethgludaist gaethiwed: derbyniaist roddion i ddynion; ie, i'r rhai cyndyn hefyd, fel y preswyliai yr Arglwydd Dduw yn eu plith.

19. Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a'n llwytha beunydd â daioni; sef Duw ein hiachawdwriaeth. Sela.

20. Ein Duw ni sydd Dduw iachawdwriaeth; ac i'r Arglwydd Dduw y perthyn diangfâu rhag marwolaeth.

21. Duw yn ddiau a archolla ben ei elynion; a chopa walltog yr hwn a rodio rhagddo yn ei gamweddau.

22. Dywedodd yr Arglwydd, Dygaf fy mhobl drachefn o Basan, dygaf hwynt drachefn o ddyfnder y môr;

23. Fel y trocher dy droed yng ngwaed dy elynion, a thafod dy gŵn yn yr unrhyw.

24. Gwelsant dy fynediad, O Dduw; mynediad fy Nuw, fy Mrenin, yn y cysegr.

25. Y cantorion a aethant o'r blaen, a'r cerddorion ar ôl; yn eu mysg yr oedd y llancesau yn canu tympanau.

26. Bendithiwch Dduw yn y cynulleidfaoedd, sef yr Arglwydd, y rhai ydych o ffynnon Israel.

27. Yno y mae Benjamin fychan â'u llywydd, tywysogion Jwda â'u cynulleidfa; tywysogion Sabulon, a thywysogion Nafftali.

28. Dy Dduw a orchmynnodd dy nerth: cadarnha, O Dduw, yr hyn a wnaethost ynom ni.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 68