Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 67:2-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaear, a'th iachawdwriaeth ymhlith yr holl genhedloedd.

3. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi.

4. Llawenhaed y cenhedloedd, a byddant hyfryd: canys ti a ferni y bobl yn uniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaear. Sela.

5. Molianned y bobl di, O Dduw; molianned yr holl bobl dydi.

6. Yna y ddaear a rydd ei ffrwyth; a Duw, sef ein Duw ni, a'n bendithia.

7. Duw a'n bendithia; a holl derfynau y ddaear a'i hofnant ef.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 67