Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 66:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear:

2. Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus.

3. Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti.

4. Yr holl ddaear a'th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i'th enw. Sela.

5. Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion.

6. Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo.

7. Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela.

8. O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef:

9. Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i'n troed lithro.

10. Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian.

11. Dygaist ni i'r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau.

12. Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a'r dwfr: a thi a'n dygaist allan i le diwall.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 66