3. Pethau anwir a'm gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a'u glanhei.
4. Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd.
5. Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a'r rhai sydd bell ar y môr.
6. Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid.
7. Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd.
8. A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu.
9. Yr wyt yn ymweled â'r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi.
10. Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi.
11. Coroni yr ydwyt y flwyddyn â'th ddaioni; a'th lwybrau a ddiferant fraster.
12. Diferant ar borfeydd yr anialwch: a'r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch.
13. Y dolydd a wisgir â defaid, a'r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.