1. Mawl a'th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned.
2. Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd.
3. Pethau anwir a'm gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a'u glanhei.
4. Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd.
5. Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a'r rhai sydd bell ar y môr.