1. Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y'th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr;
2. I weled dy nerth a'th ogoniant, fel y'th welais yn y cysegr.
3. Canys gwell yw dy drugaredd di na'r bywyd: fy ngwefusau a'th foliannant.
4. Fel hyn y'th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.
5. Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:
6. Pan y'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.
7. Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
8. Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a'm cynnal.
9. Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.