Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 63:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y'th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr;

2. I weled dy nerth a'th ogoniant, fel y'th welais yn y cysegr.

3. Canys gwell yw dy drugaredd di na'r bywyd: fy ngwefusau a'th foliannant.

4. Fel hyn y'th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.

5. Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a'm genau a'th fawl â gwefusau llafar:

6. Pan y'th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.

7. Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 63