Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 59:7-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Wele, bytheiriant â'u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?

8. Ond tydi, O Arglwydd, a'u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

9. Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys Duw yw fy amddiffynfa.

10. Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.

11. Na ladd hwynt, rhag i'm pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O Arglwydd ein tarian.

12. Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a'r celwydd a draethant.

13. Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela.

14. A dychwelant gyda'r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

15. Crwydrant am fwyd; ac onis digonir, grwgnachant.

16. Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf.

17. I ti, fy nerth, y canaf; canys Duw yw fy amddiffynfa, a Duw fy nhrugaredd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 59