Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 59:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fy Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i'm herbyn.

2. Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd.

3. Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i'm herbyn; nid ar fy mai na'm pechod i, O Arglwydd.

4. Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i'm cymorth, ac edrych.

5. A thi, Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel, deffro i ymweled â'r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela.

6. Dychwelant gyda'r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

7. Wele, bytheiriant â'u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw?

8. Ond tydi, O Arglwydd, a'u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd.

9. Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys Duw yw fy amddiffynfa.

10. Fy Nuw trugarog a'm rhagflaena: Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion.

11. Na ladd hwynt, rhag i'm pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O Arglwydd ein tarian.

12. Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a'r celwydd a draethant.

13. Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela.

14. A dychwelant gyda'r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 59