6. Darparasant rwyd i'm traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o'm blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela.
7. Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf.
8. Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore.
9. Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
10. Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
11. Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.