Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 56:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid.

7. A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd.

8. Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di?

9. Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi.

10. Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air.

11. Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi.

12. Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 56