Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 55:3-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog.

4. Fy nghalon a ofidia o'm mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf.

5. Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a'm gorchuddiodd.

6. A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn.

7. Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela.

8. Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a'r dymestl.

9. Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas.

10. Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi.

11. Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o'i heolydd hi.

12. Canys nid gelyn a'm difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i'm herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef:

13. Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a'm cydnabod,

14. Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd.

15. Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 55