Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 55:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o'i heolydd hi.

12. Canys nid gelyn a'm difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i'm herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef:

13. Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a'm cydnabod,

14. Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd.

15. Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg.

16. Myfi a waeddaf ar Dduw; a'r Arglwydd a'm hachub i.

17. Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd.

18. Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i'm herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi.

19. Duw a glyw, ac a'u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw.

20. Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod.

21. Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 55