1. Achub fi, O Dduw, yn dy enw; a barn fi yn dy gadernid.
2. Duw, clyw fy ngweddi; gwrando ymadrodd fy ngenau.
3. Canys dieithriaid a gyfodasant i'm herbyn, a'r trawsion a geisiant fy enaid: ni osodasant Dduw o'u blaen. Sela.
4. Wele, Duw sydd yn fy nghynorthwyo: yr Arglwydd sydd ymysg y rhai a gynhaliant fy enaid.
5. Efe a dâl ddrwg i'm gelynion: tor hwynt ymaith yn dy wirionedd.
6. Aberthaf i ti yn ewyllysgar: clodforaf dy enw, O Arglwydd; canys da yw.