1. Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad.
2. Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw.
3. Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o'i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o'i amgylch.
4. Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl.
5. Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth.
6. A'r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela.
7. Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i'th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi.
8. Nid am dy aberthau y'th geryddaf, na'th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad.
9. Ni chymeraf fustach o'th dŷ, na bychod o'th gorlannau.
10. Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a'r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd.